Ry’n ni’n credu bod llawer o gyfleoedd i chwarae rhan ym Mlwyddyn y Môr yn 2018.
Theatr Byd Bychan yn creu gwledd wych i’r llygad ac yn denu ymwelwyr i ddeg cyrchfan ar hyd a lled Cymru. Bydd y cipolygon ohoni yn dilyn Llwybr Cymru, sydd newydd ei lansio a’i gynllunio i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i dair ffordd sy’n arwain at galon y Gymru go iawn. fforddcymru.cymru
Ar gyfer Ymwelwyr
Cynllunio’ch ymweliad
Trwy gynllunio ymlaen llaw, gall dyddiau teuluol ar y traeth a gweithgareddau arfordirol i bobl anturus fod yn ddiogel, yn gyffrous a chofiadwy. Mae Adventure Smart Wales yn dweud Mentra’n Gall ac mae llawer o awgrymiadau am sut i wneud hynny ar eu gwefan. http://www.adventuresmartwales.com/
Mae lleoliadau’r daith yn hygyrch ar hyd hewl, ar droed ac mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd parcio cyfyngedig ym mhob cyrchfan, felly os gwelwch yn dda cynlluniwch ymlaen llaw ac hefyd checiwch yr amserlenni bws a thrên lleol.
Ar gyfer Busnesau
Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i greu mwy o weithgareddau, digwyddiadau a hyrwyddiadau o amgylch y daith unigryw hon.
Gallwn eich cyfeirio at wybodaeth cam wrth gam Croeso Cymru ar gyfer eich busnes er mwyn i chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar y gweill. #gwladgwlad
Year Of Sea Business Guide PDF
Os y’ch chi’n atyniad ymwelwyr, ydych chi wedi ystyried rhedeg digwyddiad ar y dydd, ac yn gyfnewid wedyn gallwn gynnwys eich gwybodaeth ar restr Cragen o ddigwyddiadau?
Os y’ch chi’n darparu llety, pam na wnewch chi adael i’ch rhestr gyswllt wybod neu redeg hyrwyddiad arbennig i ddenu ymwelwyr o gwmpas dyddiadau’r daith?
Efallai eich bod yn fusnes bwyd lleol sy’n gallu gweini ‘pryd y dydd’ arbennig wedi ei wneud â chynnyrch lleol? Neu efallai gallai hwn fod yn gyfle i chi arddangos eich blaengarwch wrth wared plastig #plasticfree
I Bawb
Helpwch ni i ledaenu’r gair!
Chwaraewch ran yn ein hymgyrch farchnata drwy dagio eich lluniau o daith Cragen ar gyfryngau cymdeithasol gyda
#cragenmoroeddglan #gwladgwlad #moroeddglan
Ry’n ni angen eich help i annog eich cwsmeriaid i ddod i fwynhau y daith a digwyddiadau ein partneriaid yn y prosiect. A wnewch chi anfon dolen i’r wefan hon atyn nhw os gwelwch yn dda. Ry’n ni hefyd yn uwch-lwytho y daflen fel y gallwch ei hanfon mewn e-bost neu ei defnyddio ar-lein.
Addewid Moroedd Glân
Ledled y byd mae llywodraethau, cwmnïau ac unigolion yn addo ymladd dros