

Mae yna lawer o adroddiadau am angenfilod môr yn ystod ‘Oes y Fforwyr’ 400 – 600 mlynedd yn ôl, pan oedd fforwyr Ewropeaidd yn hwylio i foroedd newydd. Roedd pobl yn credu bod ymddangosiad anghenfil yn rhywbeth proffwydol, yn arwydd o wae a thrychineb, neu o newidiadau mawr.
Mae gwahoddiad i ymwelwyr gael cipolwg ar Cragen mewn mannau ar hyd Llwybr Cymru
ac i amddiffyn arfordir godidog Cymru rhag llygredd plastig trwy ymuno yn y nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y sioe deithiol.
Mae Cragen wedi ei hysbrydoli gan lyfr dyluniadau Conrad Gesner, naturiaethwr o’r Swisdir, a gyhoeddwyd dros 460 o flynyddoedd yn ôl. Caiff y llyfr gwych hwn ei gadw yng Nghanolfan Ymchwil Roderic Bowen, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’n nodweddiadol o’i gyfnod ac yn cynnwys dyluniadau llawn dychymyg o’r angenfilod mor â nodweddion anifeiliaid byw a ddisgrifiwyd gan forwyr ofergoelus a naturiaethwyr mentrus. Cyfuniad yw Cragen o straeon celwydd golau a delweddau chwedlonol.