Yn ôl y sôn, mae hi’n byw oddi ar arfordir Cymru
ac mae arbenigwyr wedi rhagweld y bydd hi’n crwydro ar hyd y glannau gyda neges bwysig am foroedd glân yn ystod Blwyddyn y Môr yng Nghymru. Bydd ymwelwyr a chymunedau yn gegrwth wrth weld ei dyfeisgarwch ac yn rhyfeddu at ei maint (tua 3 medr o led ac 20 medr o hyd) wrth iddi ddychwelyd gwastraff plastig diangen o Fôr Iwerddon i’r tir.
Mae yna wahoddiad cynnes i chi ddod i weld yr anghenfil hardd yma sy’n byw o dan y don
ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau ar ddyddiadau’r sioe deithiol.
Da chi, dilynwch deithiau Cragen ac ychwanegwch eich cipolwg chi ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau